Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i oedolion - oedolion sydd eisoes yn derbyn cefnogaeth gan y gwasanaethau iechyd meddwl

Mae gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol, gan gynnwys Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, Timau Triniaeth Cartref, y Tîm Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol  a gwasanaethau i gleifion mewn ysbytai, wedi parhau i ddarparu cefnogaeth yn ystod pandemig COVID-19. Fel rheol, bydd arnoch angen cyfeiriad gan weithiwr iechyd proffesiynol i fynd at y gwasanaethau hyn.

Fe all y ffordd mae rhai o’r gwasanaethau hyn yn cael eu cyflwyno fod wedi newid yn ystod y pandemig i leihau trosglwyddiad y feirws a’ch cadw chi, eich anwyliaid a’n staff yn ddiogel.

Gwasanaethau i gleifion mewn ysbytai

Mae ein wardiau acíwt mewn ysbytai yn gweithredu fel arfer. Fodd bynnag, cyflwynwyd rhai cyfyngiadau a newidiadau i weithredu normal, a gall y rhain amrywio yn dibynnu ar y lleoliad. Mae manylion am y newidiadau hyn yn y dolenni isod.

Mynediad at ymyriadau therapiwtig

Rydym wedi ail-gychwyn cyflwyno therapïau a ataliwyd yn ystod cyfnod cyntaf y pandemig, trwy dechnoleg fideo, a wyneb-yn-wyneb lle bo hynny’n glinigol briodol.

Teuluoedd a gofalwyr

Mae’r gefnogaeth a roddir gan deulu a chyfeillion i rywun â chyflwr iechyd meddwl mor bwysig, ac yn fwy fyth felly yn ystod y pandemig COVID. Gall cefnogi rhywun sydd â chyflwr iechyd meddwl fod yn anodd i deulu a chyfeillion, ond mae’n bwysig cofio fod help a chefnogaeth ar gael i chi. Bydd gofalu am eich lles eich hun yn golygu y byddwch mewn gwell sefyllfa i gefnogi rhywun arall. Mae’n bwysig i chi fedru cyrchu’r wybodaeth a’r gefnogaeth ddiweddaraf a all eich helpu i barhau i ofalu a chefnogi ar yr amser hwn.

Gall mudiadau gofalwyr roi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth berthnasol. Gallant wneud y canlynol:

  • Rhoi rhywun i gael sgwrs â hwy
  • Rhoi gwybod i chi am eich hawliau (gan gynnwys cyngor am fudd-daliadau lles)
  • Helpu i gael asesiad gofalwr
  • Eich helpu i ddatblygu cynllun sy’n cefnogi eich anghenion
  • Eich rhoi mewn cysylltiad â grwpiau gofalwyr lleol fel y medrwch gysylltu â gofalwyr eraill

Mae’n bwysig i chi gofio eich bod yn gwneud eich gorau ar yr adeg anodd hon, felly byddwch yn garedig wrtho chi eich hun.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: