Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n ddiogel tra yn yr ysbyty

Cadwch yn ddiogel tra yn yr ysbyty

Wrth inni ddod allan o’r pandemig a ‘dysgu byw’ gyda Covid-19, rydym yn parhau i sicrhau bod eich arhosiad mor ddiogel â phosibl. Er mwyn cyfyngu ar ymlediad heintiau, gofynnwn ichi ddarllen y canllawiau canlynol:

 Mae'n bwysig golchi'ch dwylo â dŵr a sebon, defnyddiwch glytiau gwrth-ficrobaidd ar ôl defnyddio'r toiled.

Defnyddiwch y clytiau dwylo gwrth-microbaidd amser bwyd a ddarperir i sicrhau bod eich dwylo'n lân cyn i chi fwyta'ch bwyd.

Mae hefyd yn bwysig bod eich ymwelwyr yn glanhau eu dwylo wrth ddod i mewn ac allan o amgylchedd y ward. Anogwch nhw i ddefnyddio'r hylif diheintio dwylo ag alcohol, clytiau dwylo gwrth-ficrobaidd neu sebon a dŵr yn y basnau golchi dwylo.

Ar 30.05.2022 nid yw bellach yn ofyniad cyfreithiol i ymwelwyr wisgo mygydau/gorchuddion wyneb wrth fynd i mewn i safleoedd gofal iechyd yng Nghymru. Fodd bynnag, o bryd i'w gilydd efallai y bydd angen gofyn i'ch ymwelwyr wisgo PPE ychwanegol fel mygydau wyneb i'n helpu i leihau'r risg o ledaenu haint yn yr ysbyty. Bydd unrhyw ofyniad i wisgo PPE yn cael ei gyfathrebu'n glir gan Prif Nyrs y ward. Er nad yw'n ofyniad cyfreithiol mwyach, bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i'ch cefnogi chi a'ch ymwelwyr i wisgo mygydau wyneb/gorchuddion wyneb wrth fynd i mewn i'w gyfleusterau os dewiswch wneud hynny, gan sicrhau eu bod ar gael mewn mannau cyhoeddus/wardiau/adrannau.

 

Cadwch eich gwely'n rhydd o annibendod er mwyn caniatáu i'n staff glanhau o amgylch eich gwely. Dim ond trwy ddod ag eitemau hanfodol i'r ysbyty y gellir cynorthwyo hyn.

Peidiwch ag eistedd ar welyau neu gadeiriau cleifion eraill a pheidiwch â rhannu eitemau, gan y gall hyn gynyddu’r risg o haint.

Os oes angen help arnoch i gyfathrebu â theulu neu ffrindiau, gofynnwch am swyddog cyswllt teulu (aelodau o staff sy'n gwisgo crys t pinc), a fydd yn falch o'ch cynorthwyo.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: