Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n ddiogel yn yr ysbyty

21 Rhagfyr 2022

Oherwydd cynnydd yn y nifer y bobl sydd â haint anadlol firaol yn y gymuned ac sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty, mae’r bwrdd iechyd wedi penderfynu y bydd staff ym mhob maes clinigol o fewn ysbytai acíwt a chymunedol yn dychwelyd i ddefnyddio gorchudd wyneb llawfeddygol (FRSM) hyd nes y clywir yn wahanol. Mae hwn yn fesur rhagofalus i atal lledaeniad pellach yr haint.

Rydym yn annog ymwelwyr i wneud yr un peth i amddiffyn y person yr ydych yn ymweld ag ef, cleifion eraill a staff. Os gallwch chi, dewch â gorchudd wyneb gyda chi, fel arall, bydd cyflenwad ar gael ym mhrif fynedfeydd ein hysbytai.

Efallai y gofynnir hefyd i gleifion wisgo gorchudd wyneb, os gallant ei oddef, er enghraifft wrth gael eu trosglwyddo rhwng wardiau neu adrannau.

Diolch am eich cefnogaeth a’ch cydweithrediad parhaus i gadw Hywel Dda yn ddiogel.

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: