Neidio i'r prif gynnwy

Symud a gweithgareddau

Yn dilyn unrhyw salwch byddwch yn teimlo poenau neu flinder a byddwch yn dueddol o orffwys neu fod mwy nag arfer yn y gwely. Yn anffodus, wrth dreulio llawer o amser yn gorffwys neu yn y gwely, gallwch golli cyhyr a datgyflyru a dyna pham ei bod yn bwysig ceisio ail-gryfhau’r cyhyrau hynny cyn gynted â phosib. Efallai y byddwch yn teimlo’n fwy blinedig nag arfer a phrofi rhywfaint o ddiffyg anadl, felly y peth gorau yw cymryd eich amser a cheisio gwneud ychydig bob dydd.

Buddion gweithgaredd

  • Lleihau straen a gorbryder
  • Gwneud i chi deimlo’n dda
  • Gwella cydsymud a chydbwysedd
  • Gwella osgo a golwg
  • Gwella cryfder
  • Helpu i gynnal annibyniaeth
  • Helpu i atal osteoporosis
  • Gwella patrwm cysgu
  • Lliniaru symptomau diffyg anadl

Beth allwch chi ei wneud i helpu’ch hun?

Wrth i chi ddechrau adfer mae symud yn allweddol, a symud ychydig ond yn aml sydd orau. Bydd ailgyflwyno gweithgaeddau dyddiol arferol yn eich helpu i adennill cryfder a gweithrediad. Wrth i chi ddechrau cryfhau gallai mynd am dro fach fer yn yr awyr agored helpu i adnerthu eich cyhyrau a chodi eich hwyliau, gallwch gynyddu’r pellter bob yn dipyn wrth i chi gryfhau. Mae’n bwysig dewis modd o ymarfer eich corff yr ydych yn ei fwynhau.

Mae Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi wedi cynhyrchu rhestr o adnoddau a allai ei helpu i ddod mor actif â phosib ac i gyflawni hyn yn ddiogel yn eich cartref. Mae’ adnoddau hyn yn adnoddau ar-lein. Os nad oes gennych fynediad at y we, gobeithiwn y gallwch ofyn i berthynas, cymydog neu grŵp cefnogaeth gwirfoddol i’w hargraffu i chi. Cliciwch yma i weld yr adnoddau (agor mewn dolen newydd).

Cofiwch, mae’n bwysig cadw’n ddiogel wrth wneud unrhyw weithgaredd:

  • Sicrhewch eich bod yn gwisgo esgidiau priodol (ee esgidiau â chefn ac nid sliperi)
  • Sicrhewch eich bod yn yfed digon. Gallwch golli tua litr a hanner o hylif am bob awr o ymarfer corff; felly yfwch ddŵr cyn, yn ystod ac ar ôl sesiwn.
  • Sicrhewch nad oes unrhyw beryglon baglu fel anifeiliaid anwes, lloriau llithrig a charpedi
  • Sicrhewch nad ydych yn teimlo’n benysgafn cyn dechrau
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: