Neidio i'r prif gynnwy

Problemau llais

Mae anadlu yn bwysig iawn i'n galluogi i siarad mewn llais clir y gall eraill ei glywed a'i ddeall yn hawdd. Efallai y bydd eich llais yn swnio'n wan, yn dawel, yn arw neu'n gryg. Efallai bod gennych ddolur gwddf os ydych wedi bod yn pesychu llawer. Rydych chi'n fwy tebygol o gael y problemau hyn os oedd angen tiwb anadlu arnoch tra yn yr ysbyty.

Dyma rai ffyrdd i’ch helpu i ofalu am eich llais ac i siarad yn glir:

  • Eistedd yn unionsyth a chymryd anadl cyn siarad
  • Siarad mewn brawddegau byrrach
  • Lleihau sŵn cefndir wrth siarad ag eraill
  • Osgoi gweiddi neu orfodi’r llais
  • Aros yn hydradol trwy yfed digon o ddŵr
  • Bod yn ymwybodol y gall caffein ac alcohol gael effaith sychu ar y gwddf
  • Os yw'r llais yn teimlo'n flinedig, stopio, gorffwys a cheisio eto yn nes ymlaen
  • Ysgrifennu pethau os oes angen

Os bydd eich problemau llais yn parhau am fwy nag ychydig wythnosau ar ôl i chi gael eich rhyddhau o ysbyty, cysylltwch â'ch meddyg teulu. Efallai y bydd yn trefnu i chi gael ymchwiliadau pellach a gweld Therapydd Iaith a Lleferydd.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: