Efallai eich bod yn cael trafferth bwyta ac yfed oherwydd y canlynol:
- Blinder a gwendid cyffredinol a all effeithio'n fawr ar eich cnoi a'ch llyncu.
- Os ydych wedi bod yn sâl iawn yn yr ysbyty ac wedi angen tiwb i helpu'ch anadlu, fe allai fod chwydd a theimlad anghyfforddus yn eich gwddf
- Os na wnaethoch chi fwyta ac yfed am gyfnod yn yr ysbyty, efallai bod eich cyhyrau llyncu wedi gwanhau.
Pethau i fod yn ymwybodol ohonynt wrth fwyta ac yfed
- Peswch neu dagu wrth fwyta ac yfed
- Clirio gwddf wrth fwyta ac yfed
- Llais gwlyb/â sŵn byrlymu
- Heintiau ar y frest dro ar ôl tro
- Methu bwyta ac yfed yn ddigonol/colli pwysau - o ganlyniad i anawsterau llyncu
- Teimlo fe petai bwyd yn mynd yn sownd
- Pryder ynghylch llyncu
Ble i gael help
Os ydych yn profi unrhyw un o’r uchod cysylltwch â’ch Meddyg Teulu a gofyn am atgyfeiriad at y tîm Therapi Iaith a Lleferydd lleol, neu cysylltwch yn uniongyrchol ar 01267 227425.
Gallant roi cyngor i chi ar sut i wneud bwyta ac yfed yn haws trwy newid ansawdd bwydydd a diodydd. Efallai y cewch rhaglen o ymarferion i helpu gyda chryfhau eich llyncu.