Neidio i'r prif gynnwy

Galar a phrofedigaeth

Gall fod yn gyffredin profi teimladau o golled neu alar yn ystod adfer o COVID-19. Gall y rhain fod yn gysylltiedig â cholli agweddau penodol ar weithredu, er enghraifft, gall y salwch fod wedi effeithio ar weithrediad corfforol ac o ganlyniad ei gwneud hi'n anoddach gwneud pethau. Neu, efallai eich bod wedi bod yn dyst i farwolaeth cleifion eraill yn ystod eich arhosiad yn yr ysbyty, a bod hyn wedi eachosi teimladau o alar. Efallai hefyd eich bod wedi colli ffrindiau, perthnasau neu gydnabod i COVID-19 a’ch bod mewn galar yn eich colled.

Os ydych chi wedi profi profedigaeth yn ystod eich cyfnod yn yr ysbyty, p'un ai'n ffrind agos neu'n berthynas, mae cefnogaeth ar gael i'ch helpu trwy'r cyfnod anodd hwn. Efallai nad ydych wedi gallu galaru na ffarwelio yn y ffordd arferol oherwydd cyfyngiadau pellter cymdeithasol. Mae cefnogaeth ar gael gan Wasanaeth Profedigaeth Hywel Dda a gallwch ofyn i unrhyw aelod o'r tîm neu'ch meddyg teulu am y gwasanaeth hwn. Mae hyn hefyd ar gael o Cruse Bereavement yma (Yn Saesneg yn unig - agor mewn dolen newydd).

Mae gwybodaeth bellach ar ymdopi â galar a cholled ar gael yma (Yn Saesneg yn unig - (agor mewn dolen newydd).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: