Mae'n bwysig iawn cael cwsg rheolaidd er mwyn cadw'ch corff a'ch meddwl yn iach. Ar ôl cyfnod o salwch, efallai y byddwch chi'n teimlo'n flinedig yn aml, neu'n methu â chysgu'n iawn. Efallai y byddwch hefyd yn profi breuddwydion neu hunllefau dwys sy'n teimlo'n real iawn.
Er y gall gymryd peth amser i fynd yn ôl i drefn gysgu arferol, gall yr awgrymiadau canlynol fod yn ddefnyddiol:
- Ceisio mynd i'r gwely ar yr un amser a deffro ar yr un amser bob dydd
- Ceisio codi a threulio amser mewn ystafell arall pan nad ydych yn cysgu os yn bosib
- Gwneud yr ystafell wely yn lle cyfforddus i gysgu – ei chadw’n dywyll ac yn lled oer os yn bosib. Gallai arogl ymlaciol fel lafant helpu
- Osgoi caffein yn hwyr yn y dydd ac yn lle hynny rhoi cynnig ar ddiod laethog gynnes cyn mynd i'r gwely
- Osgoi alcohol. Er y gall wneud i chi deimlo'n gysglyd i ddechrau, gall atal cwsg esmwyth
- Ymlacio mewn bath neu gawod os yn bosib
- Gwrando ar y radio neu ddarllen llyfr
- Osgoi sgriniau fel ffôn neu deledu am awr cyn mynd i'r gwely