Neidio i'r prif gynnwy

Bwyta ac yfed yn dda

Mae bwyta ac yfed yn dda yn bwysig iawn i helpu i gefnogi eich corf pan rydych yn sâl, yn ogystal â’ch cefnogi i adfer.

Os ydych yn cael trafferth bwyta digon, neu os ydych chi’n colli pwysau neu colli gryfder yn eich cyhyrau, effallai bydd angen i chi feddwl yn wahanol am y bwydydd yr ydych yn bwyta. Isod ceir rhai awgrymiadau pwysig i’ch helpu i gael y mwyaf o’r bwydydd a fytewch a gallent eich helpu i adennill rhywfaint o’r pwysau neu’r cryfder yr ydych wedi colli. 

Awgrym 1: Cadw’n hydradol

Mae yfed digon yn helpu eich corff i weithio’n iawn ac yn cefnogi adferiad.

  • Yfwch yn rheolaidd trwy gydol y dydd – ceisiwch yfed 8 gwydraid o hylif bob dydd
  • Cymerwch lymeidiau bychain yn aml pob ychydig funudau os na fedrwch chi yfed llawer ar unwaith
  • Ceisiwch yfed ddigon - dylai eich wrin fod lliw gwellt golau.
  • Os oes gennych wres, bydd angen i chi yfed fwy
  • Mae pob diod (heblaw alcohol) yn cyfrif, ceisiwch gynnwys diodydd maethlon fel diodydd llaeth a sudd.

Awgrym 2: Fitaminau a mwynau

Mae fitaminau a mwynau yn bwysig i gefnogi eich system imiwnedd pan rydych wedi bod yn sâl. Os ydych yn cael trafferth bwyta digon, efallai nad ydych yn cael yr hyn sydd angen ar eich corff. Os ydych yn treulio llawer o amser dan do, efallai nad ydych yn cael digon o heulwen i’ch corf allu cynhyrchu fitamin D.

  • Ceisiwch gynnwys ffrwythau a llysiau yn eich deiet (y nod yw o leiaf 5 dogn y dydd)
  • Ystyriwch gymryd atchwanegiad lluosfitamin a mwynau os nad ydych yn medru bwyta digon o ffrwythau a llysiau
  • Ceisiwch dreulio beth amser yn yr awyr agored bob dydd ac ystyriwch gymryd atchwanegiad fitamin D

Awgrym 3: Gwneud y mwyaf o’ch bwyd

Gall bwyta’n dda pan nad oes arnoch chwant bwyd fod yn anodd; gallech roi cynnig ar rai o’r syniadau isod:

  • Bwytewch fwy o’r bwydydd yr ydych yn eu mwynhau ar yr amseroedd yn y dydd pan rydych yn teimlo mwy o awydd bwyta
  • Bwytewch brydau llai, a byrbrydau a diodydd maethlon (e.e. smŵddi, cawl, sudd ffrwyth, ysgytlaeth neu siocled poeth) rhwng y prydau
  • Osgowch yfed cyn neu yn ystod eich prydau bwyd, am fod diodydd yn medru eich llenwi
  • Ychwanegwch gynhwysion fel hufen, caws, menyn, olew olewydd, caws hufenog, powdr llaeth ac almwn mâl i fwydydd fel cawl, stiw, cyri, wyau wedi’u sgramblo, llysiau a thatws
  • Ychwanegwch fêl, surop a jam i uwd, pwdinau llaethog, ar fara, tost neu gacen de
  • Cryfhewch eich llaeth arferol trwy ychwanegu 2-4 llwy fwrdd o bowdr llaeth sgim i 1 peint o laeth
  • Dewiswch fwydydd a diodydd braster llawn sy’n cynnwys siwgr a bwytewch rhai danteithion fel darn o gacen, siocled, llond llaw o gnau, bisged rhwng prydau neu fyrbryd

Awgrymiadau ymarferol i’ch helpu os oes gennych symptomau penodol

Blasu/arogli llai nag arfer

Dewiswch fwydydd sydd â blas cryf, e.e. sbeis, sitrws. Ychwanegwch sawsiau neu fwy o bupur neu berlysiau er mwyn ychwanegu mwy o flas i’ch prydau.

Diffyg anadl

Dewiswch fwydydd meddal (sy’n hawdd eu cnoi) a diodydd maethlon (ysgytlaeth, smŵddi). Bwytewch yn araf a thameidiau bach ar y tro. Ceisiwch fwyta mwy pan nad ydych yn teimlo cymaint o ddiffyg anadl.

Ceg sych

Sipiwch eich diodydd yn rheolaidd, dewiswch fwydydd llaith a sicrhewch ofal da o’ch ceg. Ceisiwch sugno ar losin blas ffrwyth, losin mintys neu gwm cnoi er mwyn ysgogi cynhyrchu poer (dim on dos nad oes gennych broblemau llyncu).

Mae taflen ganllaw am ddim i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch bwyd ‘Your Guide to Making the Most of Your Food’ yn cynnwys mwy o awgrymiadau a syniadau i’ch helpu i gael y maeth mwyaf posib o’ch bwyd (Yn Saesneg yn unig - agor mewn dolen newydd). 

Os oes gennych ddiabetes neu glefyd y galon, efallai na fydd rhai o’r awgrymiadau uchod yn addas i chi. Siaradwch â’ch gweithiwr proffesiynol gofal iechyd am gyngor pellach.

Awgrym 4: Cael y bwydydd sydd eu hangen arnoch

Gall cadw pellter cymdeithasol, hunan ynysu a teimlo’n anhwylus ei gwneud hi’n anodd mynd i siopa am y bwydydd sydd eu hangen arnoch.

  • Cofiwch gynnwys bwydydd cyfleus (fel bwydydd mewn tun, sych neu wedi rhewi) yn eich siopa wythnosol gan y bydd y rhain yn para’n hirach e.e. llaeth hir-oes, byrbrydau sawrus, bisgedi plaen, pwdin reis, corned beef, ffa pob, cawl, pwdinau mewn tun a chwstard. Dyma rai syniadau defnyddiol o fwydydd i’ch cypyrddau.
  • Defnyddiwch wasanaethau dosbarthu cartref sy’n cynnig bwydydd sydd eisoes wedi’u paratoi
  • Trefnwch fwyta’n rheolaidd gyda ffrind neu berthynas – os ydych yn hunan-ynysu, gallai gwneud hyn dros alwad ffôn neu alwad fideo helpu
  • Os ydych yn hunan-ynysu, gofynnwch i berthnasau, ffrindiau neu ofalwyr am help gyda’ch siopa, neu defnyddiwch wasanaeth archebu siopa i’w danfon i chi yn eich cartref

Os ydych yn parhau i golli pwysau neu’n cael trafferth bwyta digon er eich bod yn dilyn yr awgrymiadau, hyd yn oed os ydych dros bwysau, ceisiwch gyngor weithiwr proffesiynol gofal iechyd neu’r adran ddeieteg sy’n lleol i chi – ceir y manylion cyswllt isod.

Manylion cyswllt Maeth a Deieteg

Sir Gaerfyrddin

Ysbyty Glangwili

01267 227067

Ysbyty Tywysog Philip

01554 783061

Aberteifi

Ysbyty Bronglais

01970 635730

Sir Benfro

Ysbyty Llwynhelyg

01437 773357

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: