Er mwyn ein helpu ni i weld a oes gennych hawl i gael gofal iechyd di-dâl, bydd angen i chi ddod â dwy ddogfen wahanol i’ch apwyntiad – un i brofi pwy ydych chi ac un i brofi eich cyfeiriad. Mae rhestr o ddogfennau y gallech eu dangos i’w gweld yn yr adran isod.
Prawf o hunaniaeth
- Pasbort cyfredol wedi’i lofnodi
- Trwydded breswylio wedi’i rhoi gan y Swyddfa Gartref
- Cerdyn adnabod â llun arno ar gyfer gwladolion yr UE neu’r Swistir
- Trwydded yrru ddilys y DU â llun arni
- Cerdyn adnabod dilys y lluoedd arfog neu’r heddlu â llun arno
- Bathodyn glas i bobl anabl, â llun arno
- Cerdyn dinesydd
Gorau os oll gallwch ddangos prawf o’ch hawl i breswylio yn y DU, er enghraifft
- pasbort y DU neu’r EEA
- cerdyn adnabod â llun arno i wladolion yr EEA
- fisa neu drwydded breswylio a roddir trwy gerdyn neu drwydded breswylio biometreg y Swyddfa Gartref
- cerdyn cofrestru ceisiwr lloches
- cerdyn adnabod dilys y lluoedd arfog neu’r heddlu â llun arno
Bydd hyn yn ein helpu i benderfynu’n gyflymach a ydych yn gymwys, a bydd yn osgoi oedi cyn rhoi triniaeth i chi.
Prawf o gyfeiriad
- Bil cyfleustodau gwreiddiol diweddar (nwy, trydan, dŵr, ffôn) (nid yw bil ffôn symudol yn dderbyniol)
- Bil treth gyngor (dilys am y flwyddyn gyfredol)
- Datganiad neu lyfr cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd
- Datganiad morgais gwreiddiol diweddar gan roddwr benthyciadau cydnabyddedig
- Llyfr rhent neu gytundeb tenantiaeth cyfredol gan y Cyngor/cymdeithas dai
- Llythyr hysbysu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn cadarnhau eich hawl i dderbyn budd-dal neu bensiwn y wladwriaeth
Mae’n ofynnol i bob claf a dderbynnir i’n hysbytai, beth bynnag ei genedligrwydd a’i statws preswylio, ddarparu gwybodaeth gywir wrth gofrestru ei fanylion. Os ydych yn byw yn gyfreithlon â phwrpas sefydlog yn y DU, neu os ydych yn ymwelydd, dylech fod yn barod i ddarparu tystiolaeth.