Neidio i'r prif gynnwy

Menopos a chaethiwed

Mae menywod sy'n mynd trwy symptomau corfforol a seicolegol perimenos a menopos yn fwy agored i gamddefnyddio sylweddau.

Efallai eich bod wedi dechrau defnyddio alcohol neu gyffuriau presgripsiwn a sylweddau anghyfreithlon i helpu dros dro i leddfu'r symptomau hyn.

Efallai y bydd yr adnoddau ar y dudalen hon yn gallu eich helpu i ddeall ychydig mwy am yr hyn y mae'r corff yn mynd drwyddo yn ystod y cyfnod hwn. 

Os ydych chi'n poeni am eich defnydd o alcohol neu sylweddau eraill, ffoniwch D-DAS ar 030363 9997. Mae'r staff wedi derbyn hyfforddiant arbenigol ar faterion y gallech fod yn eu profi ynghylch y menopos a chaethiwed. 

Adnoddau menopos

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: