Neidio i'r prif gynnwy

Trafferth Llyncu

Mae dysffagia fel arfer yn cael ei achosi gan gyflwr iechyd arall, fel cyflwr sy'n effeithio ar y system nerfol, a gall weithiau arwain at gymhlethdodau iechyd eraill. Gall anawsterau bwyta, yfed a llyncu gael effaith fawr ar fywyd bob dydd i chi a'r rhai o'ch cwmpas.

Os ydych chi’n teimlo bod pethau ‘yn mynd i lawr y ffordd anghywir’ pan fyddwch chi’n bwyta neu’n yfed efallai y byddwch chi’n cael anhawster llyncu. Mae arwyddion rhybudd yn cynnwys:

  • llais gwlyb, gurglys wrth fwyta neu yfed
  • peswch wrth fwyta neu yfed
  • anhawster anadlu - gall anadlu fod yn gyflym ac yn fas

Yn aml gallwn helpu trwy ddod o hyd i ffyrdd o fwyta ac yfed yn haws.

Gallwch atgyfeirio eich hun neu ofyn i unrhyw aelod o’ch tîm gofal iechyd atgyfeirio. Fel arfer byddwn yn siarad â chi yn gyntaf, efallai y byddwn yn eich gwylio yn bwyta ac yfed, ac weithiau byddwn yn defnyddio asesiadau arbenigol.

Rydym yn cynnig asesiadau o lyncu fel rhan o’ch arhosiad fel claf mewnol yn unrhyw un o Ysbytai cyffredinol a chymunedol y bwrdd iechyd, yn ogystal â chynnig asesiadau yn eich cartref eich hun, cartrefi nyrsio, cartrefi preswyl, clinigau cleifion allanol a chlinigau rhithwir.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: