Neidio i'r prif gynnwy

Ganser y pen a'r gwddf

Yn dilyn diagnosis o ganser y pen a’r gwddf, mae therapyddion iaith a lleferydd arbenigol yn chwarae rhan unigryw a hanfodol wrth asesu, gwneud diagnosis a rheoli problemau cyfathrebu, lleferydd, llais a llyncu. Ein gwaith ni yw darparu cyngor a chefnogaeth cyn, yn ystod ac ar ôl triniaeth.

Gall triniaethau ar gyfer y canserau hyn gynnwys llawdriniaeth (fel tynnu blychau llais – “laryngectomi”), radiotherapi, cemo-radiotherapi, neu gyfuniad o driniaethau. Gall y rhain yn aml effeithio ar allu person i siarad, defnyddio ei lais, llyncu, arogli ac anadlu, gan effeithio'n sylweddol ar ansawdd bywyd. Os na chânt eu cefnogi, gall yr anawsterau hyn hefyd effeithio ar allu person i gymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd. Rydym yn rhan o dîm arbenigol medrus ac yn gweithio gyda'n gilydd i helpu ein holl gleifion trwy eu taith canser.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: