Neidio i'r prif gynnwy

Cyrchu Gwasanaethau Radioleg

Gallwch gael eich cyfeirio at yr Adran Radioleg gan feddyg, ymgynghorydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall (ymarferydd nyrsio, podiatrydd neu ffisiotherapydd).

 

Pelydr X Cyffredin

Ysbyty Tywysog Philip (Gwasanaeth Cerdded i Mewn)

Os oes angen pelydr-X arferol arnoch a bod eich meddyg teulu wedi rhoi ffurflen i chi, rydym yn cynnig gwasanaeth cerdded i mewn. Gallwch droi i fyny unrhyw bryd rhwng 8am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gan fod hwn yn wasanaeth cerdded i mewn, gall fod yn brysur iawn. Byddem yn eich cynghori i roi galwad i ni cyn i chi fynychu i wirio amseroedd aros presennol. Ein rhif ffôn yw 01554 781116 or 01554 871117.

 

Ysbyty Glangwili, Bronglais a Llwynhelyg (Dim gwasanaeth cerdded i mewn)

Rydym yn rhedeg ychydig yn wahanol yn y 3 ysbyty yma. Os yw eich meddyg teulu wedi gofyn am belydr-X arferol, anfonir apwyntiad atoch yn y post. Arhoswch am eich apwyntiad cyn dod i'r adran.

 

Ysbyty Llanymddyfri

Rydym yn rhedeg gwasanaeth cyfyngedig yn Ysbyty Llanymddyfri. Pan fyddwn yn derbyn atgyfeiriad ar eich cyfer a hwn yw’r ysbyty agosaf a mwyaf cyfleus, bydd llythyr apwyntiad yn cael ei anfon atoch. Arhoswch am eich apwyntiad cyn dod i'r adran.

 

CT, MRI, RNI ac Uwchsain

Os oes angen sgan CT, MRI neu Uwchsain arferol arnoch, byddwn yn derbyn atgyfeiriad gan eich meddyg, ymgynghorydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Unwaith y cawn eich atgyfeiriad bydd yn cael ei asesu, a bydd llythyr apwyntiad yn cael ei anfon atoch yn y post yn dibynnu ar y brys clinigol.

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: