Mae gan bawb ohonom anghenion iechyd emosiynol a meddyliol ac mae edrych ar ôl ein iechyd emosiynol a meddyliol yr un mor bwysig a edrych ar ôl ein iechyd corfforol.
Y Pum Ffordd at Les yw fersiwn y maes iechyd emosiynol a meddyliol o'r 'pum dogn o ffrwythau a llysiau y dydd'. Argymhellir ein bod yn cynnwys y Pum Ffordd yn ein bywydau bob dydd er mwyn gwella ein iechyd emosiynol a meddyliol.