Neidio i'r prif gynnwy

Maetheg a deieteg

Rydym yn darparu gofal maethol, cyngor, cymorth, addysg a hyfforddiant gyda'r nod o wella eich iechyd a'ch lles. Rydym hefyd yn cefnogi eich adferiad, ac yn darparu maeth fel triniaeth neu ar gyfer rheoli ystod eang o gyflyrau iechyd.

Mae dietegwyr yn defnyddio gwyddor maeth i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus am y bwyd y maent yn ei fwyta a'u ffordd o fyw. Gwnânt hyn i hybu iechyd da a rheoli symptomau afiechyd. Os hoffech wybod mwy am rôl y dietegydd cliciwch yma (agor mewn dolen newydd) 

Rydym yn gweithio gydag oedolion a phlant ar draws y gymuned, ac mewn ysbytai. Mae'r tîm yn cynnwys dietegwyr, nyrsys maeth arbenigol ac amrywiaeth o staff cymorth, rydym hefyd yn gweithio fel rhan o lawer o dimau gofal iechyd eraill.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: