Mae brechu arferol yn amddiffyn rhag afiechydon difrifol yma yn y DU.
Os ydych chi'n bwriadu teithio dramor, mae'n bosibl y bydd angen brechiadau ychwanegol arnoch i'ch amddiffyn rhag afiechydon heintus nad ydyn nhw i'w cael yma, e.e. twymyn melyn neu falaria.
Dylai'r mwyafrif o frechiadau gael eu rhoi o leiaf fis cyn teithio felly gadewch ddigon o amser i'ch plentyn gael yr holl frechlynnau sydd eu hangen arno. Gofynnwch i'ch meddyg teulu os ydych chi’n ansicr ynghylch brechu.
I gael cyngor manwl ar frechu i bob teithiwr cliciwch yma (agor mewn dolen newydd)