Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw symptomau prolaps organau'r pelfis?

Mae symptomau prolaps organau'r pelfis yn cynnwys y canlynol:

  • Teimlad o drymder a phoen o amgylch rhan isaf eich bol, ardal yr organau cenhedlu a rhan isaf eich cefn
  • Ymdeimlad o lusgo anghysurus y tu mewn i'ch gwain
  • Ymdeimlad o rywbeth yn dod i lawr i mewn i'ch gwain
  • Gweld chwydd neu lwmp yn ymwthio o'r wain
  • Diffyg teimlad ac anghysur yn ystod rhyw
  • Cael problemau pan fyddwch yn pasio dŵr, er enghraifft, teimlo nad yw eich pledren yn gwagio'n llwyr, angen mynd i'r toiled yn amlach, neu ollwng ychydig bach o wrin pan fyddwch yn pesychu, yn tisian neu'n gwneud ymarfer corff (anymataliaeth straen)

Gall symptomau prolaps y rectwm gynnwys y canlynol:

  • Lwmp y gallwch ei deimlo y tu allan i'ch pen-ôl.
  • Efallai mai dim ond ar ôl i chi agor eich coluddion (ysgarthu) y bydd y lwmp yn ymddangos.
  • Efallai y bydd y lwmp yn ymwthio pan fyddwch yn sefyll neu'n cerdded, neu pan fyddwch yn pesychu neu'n tisian.
  • Rhedlif clir neu frown llysnafeddog yn dod o'ch pen-ôl.
  • Methu rheoli pryd y bydd eich coluddion yn agor (ysgarthu).
  • Ei chael yn anodd cadw eich hun yn lân o amgylch y pen-ôl.
  • Os bydd y prolaps/lwmp yn aros y tu allan i'r corff, weithiau gall chwyddo a mynd yn fwy a theimlo'n boenus iawn. Gelwir hyn yn brolaps tagedig.

Os ydych yn amau bod gennych brolaps tagedig y rectwm, ewch i adran Damweiniau ac Achosion Brys eich ysbyty agosaf.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: