Gall nifer o bethau wanhau llawr eich pelfis a chynyddu'r posibilrwydd y byddwch yn datblygu prolaps organau'r pelfis. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
- beichiogrwydd a genedigaeth, yn enwedig os cawsoch enedigaeth hir, anodd, neu os bu i chi roi genedigaeth i faban mawr neu sawl baban
- y defnydd o episiotomi/efeiliau wrth roi genedigaeth
- heneiddio a mynd trwy'r menopos
- bod dros bwysau
- bod â rhwymedd hirdymor neu gyflwr iechyd hirdymor sy'n achosi i chi besychu a straenio
- cael hysterectomi
- swydd sy'n gofyn am lawer o waith codi pethau trwm
- gall rhai cyflyrau iechyd hefyd wneud prolaps yn fwy tebygol, gan gynnwys syndrom gorsymudedd y cymalau, syndrom Marfan a syndromau Ehlers-Danlos