Neidio i'r prif gynnwy

Sut y gellir gwneud diagnosis o endometriosis?

  • Gall hanes meddygol gofalus a thrylwyr amlygu symptomau a allai ddeillio o endometriosis.
  • Gall archwiliad o'r pelfis nodi codennau ofarïaidd, nodylau endometriotig neu greithiau ar y ligamentau sy'n cynnal y groth a rhwng y coluddyn a'r wain (endometriosis rhefrweiniol).
  • Gall sgan uwchsain helpu i asesu difrifoldeb endometriosis. Os bydd cystiau ar yr ofarïau gellir eu nodi ac, yn ogystal, gall sgan uwchsain hefyd ein galluogi i asesu pa mor sownd y mae'r ofarïau a'r groth. Gall sganiau uwchsain hefyd helpu i nodi ardaloedd eraill o endometriosis yn y pelfis. Mae'r wybodaeth hon yn ddefnyddiol wrth gynllunio'r driniaeth.
  • Laparosgopi yw'r dull mwyaf dibynadwy o wneud diagnosis o endometriosis. Mae'n golygu gosod camera bychan trwy doriad bach yn y bogail i edrych y tu mewn i'r abdomen a'r pelfis.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: