Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw symptomau endometriosis?

Mae symptomau cyffredin endometriosis yn cynnwys y canlynol:

  • Mislifoedd poenus
  • Poen yn y pelfis
  • Poen yn ystod cyfathrach rywiol
  • Poen wrth ysgarthu, yn aml yn ystod mislifoedd
  • Poen wrth basio dŵr, yn aml yn ystod mislifoedd
  • Anhawster beichiogi ynghyd â'r symptomau uchod Efallai na fydd gan rai menywod ag endometriosis unrhyw symptomau arwyddocaol. Nid haint yw endometriosis; nid yw’n heintus, ac nid canser ydyw.

Ewch i weld eich meddyg teulu os byddwch yn sylwi ar unrhyw rai o'r canlynol:

  • Gwaedu anarferol o'r wain, gwaedu rhwng eich mislifoedd, neu waedu o'r wain os ydych wedi bod trwy'r menopos.
  • Rhedlif anarferol o'r wain sy'n parhau.
  • Newidiadau i olwg arferol eich fwlfa (eich organau cenhedlu allanol) neu wain, neu os bydd lwmp, dolur neu gosi parhaus yn datblygu yn yr ardal.
  • Poen pan fyddwch yn pasio dŵr neu angen pasio dŵr yn aml.
  • Chwydd parhaus yn y bol neu deimlo'n chwyddedig.
  • Poen neu dynerwch yn y bol neu o amgylch yr ardal rhwng eich cluniau (y pelfis).
  • Dim archwaeth neu deimlo'n llawn yn gyflymach nag arfer ar ôl bwyta.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: