Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw symptomau camweithrediad y coluddyn?

Dylai symudiadau'r coluddyn (ysgarthion) fod yn llaith ac wedi'u ffurfio'n dda (heb fod yn rhy galed na thalpiog, a heb fod yn rhy feddal na soeglyd). Dylai fod yn hawdd eu pasio heb straen na phoen. Dylech deimlo'n wag wedyn.

Colli rheolaeth ar y coluddyn

Gall hyn amlygu ei hun mewn amrywiaeth o ffyrdd:

  • Ysgarthion yn gollwng: gall hyn olygu staenio eich dillad isaf neu ollwng ar y ffordd i fynd i'r toiled.
  • Mwcws yn gollwng: gall ollwng yn eich dillad isaf heb i chi sylwi ei bod yn digwydd.
  • Anallu i reoli fflatws (gwynt).
  • Ymdeimlad o frys wrth ysgarthu: gorfod rhuthro i'r toiled cyn gynted ag y byddwch yn teimlo'r ysfa ac weithiau yn methu cyrraedd mewn pryd.
  • Anhawster o ran sychu eich pen-ôl yn lân a gorfod sychu dro ar ôl tro.

Anhawster o ran agor eich coluddion

Efallai y byddwch yn teimlo nad ydych yn gallu agor eich coluddion er ei bod yn teimlo fel petaech chi am ysgarthu. Gall hyn fod oherwydd rhwymedd.

Gall y symptomau fod fel a ganlyn:

  • Mae'n rhaid i chi straenio llawer i agor eich coluddion/ysgarthu.
  • Mae symudiadau eich coluddyn/eich ysgarthion yn galed ac yn dalpiog.
  • Rydych yn teimlo nad ydych wedi gorffen agor eich coluddion/ysgarthu, er na fydd rhagor yn dod allan.
  • Rydych yn teimlo'n chwyddedig ac efallai y bydd eich bol yn teimlo'n anghyfforddus o lawn ac wedi chwyddo, a hefyd yn teimlo rhywfaint o anghysur a phoen.
  • Efallai y byddwch yn agor eich coluddion/ysgarthu yn llai aml nag sy'n arferol i chi.
  • Efallai y byddwch yn pasio gwynt sy'n arogli'n ddrwg.
  • Efallai y bydd gennych flas cas yn eich ceg ac oglau drwg ar yr anadl.
  • Efallai y bydd gennych lai o archwaeth.
  • Efallai y byddwch yn teimlo'n swrth.
  • Efallai y bydd hylif yn gollwng o'ch pen-ôl neu fod gennych ysgarthion rhydd.

Gall problemau eraill yn ymwneud â chamweithrediad y coluddyn achosi newidiadau ysbeidiol i arferion y coluddyn, a all effeithio ar y modd yr ydych yn teimlo'n gyffredinol. Efallai y bydd yna adegau pan fydd eich coluddion yn gweithio yn ôl yr arfer, ac adegau pan fyddwch yn rhwym neu'n dioddef o ddolur rhydd (ysgarthion dyfrllyd) ac ysgarthion rhydd (carthion rhedegog). Mae symptomau eraill a all fod yn gysylltiedig â phroblemau yn ymwneud â chamweithrediad y coluddyn fod fel a ganlyn:

  • Poen neu grampiau yn y stumog, sydd fel arfer yn waeth ar ôl bwyta ac yn well ar ôl agor eich coluddion.
  • Teimlo'n chwyddedig a phoenus, ac efallai y bydd eich bol yn teimlo'n anghyfforddus o lawn ac wedi chwyddo.
  • Efallai y byddwch yn rhwym.
  • Efallai y bydd eich symptomau'n cael eu sbarduno gan fwyta neu yfed.

Dylech ofyn am gyngor gan eich meddyg teulu a thrafod eich symptomau os byddwch yn profi’r canlynol, neu gyfuniad ohonynt am dair wythnos neu ragor:

  • Newid parhaus yn arferion eich coluddion – agor eich coluddion yn amlach, ysgarthion llacach, mwy rhedegog ac weithiau'n profi poen yn yr abdomen (y bol) hefyd.
  • Gwaed yn eich ysgarthion heb fod yna symptomau eraill o glwyf y marchogion (haemoroidau).
  • Poen yn y bol, anghysur neu stumog chwyddedig a achosir bob amser trwy fwyta – sydd weithiau'n arwain at beidio â bwyta cymaint ag y byddech fel arfer, a cholli pwysau heb geisio.

Mae angen gweithredu ar frys yn achos symptomau rhwystr yn y coluddyn

Weithiau, mae’n bosibl na fydd eich ysgarthion yn gallu pasio trwy eich coluddyn gan fod yna rwystr yn y coluddyn. Mae'n ofynnol gweithredu ar frys os bydd hyn yn digwydd.

Gall symptomau rhwystr yn y coluddyn gynnwys y canlynol:

  • Poen yn yr abdomen (y bol) a all fynd a dod ac sydd weithiau'n ddifrifol. Achosir y poen yn y bol bob amser trwy fwyta.
  • Colli pwysau, a hynny'n anfwriadol, ynghyd â phoen parhaus yn yr abdomen.
  • Chwydd cyson yn y bol ynghyd â phoen yn yr abdomen.
  • Bod yn sâl (chwydu) ynghyd â chwydd cyson yn yr abdomen. Os byddwch yn amau bod gennych rwystr yn y coluddyn, ewch i adran Damweiniau ac Achosion Brys eich ysbyty agosaf.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: