Mae'r Gwasanaeth Therapïau Seicolegol Integredig (IPTS), y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS) a'r Gwasanaeth Cyswllt Lles yn cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Rydym yn wasanaeth pwrpasol i oedolion 18 oed a hŷn sydd angen cymorth gyda heriau iechyd meddwl.
Ein nod yw darparu ystod o gefnogaeth yn dibynnu ar angen ynghyd ag adnoddau ar-lein hawdd eu cyrraedd a gwybodaeth am faterion iechyd meddwl i'ch galluogi i hunangymorth a gwybod ble i gael cymorth pellach pe bai ei angen arnoch.
Mae'r adnoddau hunangymorth yn cynnig mynediad i lyfrau gwaith ac mae'r dolenni isod yn mynd â chi at fwy o adnoddau, fel Silvercloud, therapi ar-lein rhad ac am ddim.
Os oes angen i chi siarad â rhywun am eich iechyd meddwl, neu os ydych yn pryderu am aelod o’r teulu, gan gynnwys os yw’n fater brys, ffoniwch 111 a dewiswch opsiwn 2. Byddwch wedi’ch cysylltu’n uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol yn eich ardal ac ni fydd angen i chi aros yn hir. Mae'r rhif am ddim i'w ffonio o linell ffôn arferol neu ffôn symudol ac mae ar gael i bob oed.
Os oes angen i chi siarad â'ch meddyg teulu am eich iechyd meddwl, gallwch hefyd wneud apwyntiad gyda nhw. Os oes angen cymorth brys arnoch chi neu rywun rydych yn ei adnabod, ffoniwch 999.