Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio mewn partneriaeth i gefnogi Gofalwyr

Mae Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru (WWCDG) yn is-grŵp ffurfiol o Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru (RPB) sy’n cynnwys cynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, tri Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, yn ogystal â sefydliadau’r sector Thrydydd a Gwirfoddol, a chynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaeth a Gofalwyr yng Ngorllewin Cymru.

Mae’r WWCDG yn gweithio gyda’i gilydd i ddefnyddio’r cyllid Gofalwyr a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i Fyrddau Iechyd, y Gronfa Gofal Integredig a chyllid craidd gan sefydliadau partner, i sicrhau bod blaenoriaethau Gofalwyr wedi’u hymgorffori mewn Gwasanaethau ledled y rhanbarth yn unol â gofynion y Gwasanaethau Cymdeithasol a Deddf Llesiant (Cymru) 2014.   

Lansiodd yr RPB Strategaeth Gofalwyr Gorllewin Cymru 2020-2025 ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2020. Mae’r Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda’r RPB ac wedi ymrwymo’n llawn i'r strategaeth. Mae’r Strategaeth Gofalwyr yn nodi 4 maes blaenoriaeth er mwyn gosod gweledigaeth glir ar gyfer sut y byddwn yn gweithio gyda’n  gilydd i gynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau a fydd yn gwella canlyniadau i Ofalwyr a’u teuluoedd. Y blaenoriaethau yw:

  1. Gwella adnabod cynnar a hunan-adnabod Gofalwyr, gan gynnwys Gofalwyr Ifanc a Gofalwyr Oedolion Ifanc.
  2. Sicrhau bod ystod o wasanaethau ar gael i gefnogi lles Gofalwyr o bob oed, yn eu bywyd ochr yn ochr â gofalu.
  3. Cefnogi Gofalwyr i gael mynediad at, a chynnal cyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
  4. Cefnogi Gofalwyr i gael eu cynnwys yn ddigidol.

Cafodd ddiffinio’r meysydd blaenoriaeth ei lywio gan adborth a gawsom o weithgareddau ymgysylltu ddiweddar, yn ogystal â’r blaenoriaethau cenedlaethol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, ac asesiad anghenion poblogaeth 2017 ar gyfer Gorllewin Cymru. Bydd Strategaeth Gofalwyr Gorllewin Cymru yn cefnogi gwasanaethau I Ofalwyr sy’n seiliedig ar egwyddor cydraddoldeb a mynediad teg i bawb. Gallwch weld y strategaeth trwy glicio yma (agor mewn dolen newydd)

Gallwch weld adroddiad blynyddol WWCDG trwy glicio yma (agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: