Mae gan bob un o'n hysbytai Swyddog Gofalwyr penodedig i'ch helpu chi, trwy:
cefnogi Gofalwyr di-dâl trwy ddarparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyfeirio;
codi ymwybyddiaeth o Ofalwyr di-dâl a'r problemau y maent yn eu hwynebu;
cefnogi staff ysbytai i wella profiad y Gofalwr di-dâl o'r broses ryddhau;
eich helpu i fod yn rhan o drefniadau cynllunio rhyddhau'r person rydych yn gofalu amdano.
Gall y Swyddog Gofalwyr ddarparu gwybodaeth am eich hawliau fel gofalwr di-dâl. Hynny yw os ydych chi neu'r person rydych yn gofalu amdano yn mynd i'r ysbyty neu eisoes yn yr ysbyt. Gallant hefyd gael mynediad at gymorth arall gan gynnwys gwasanaethau cymunedol. Mae'r Swyddog Gofalwyr yn gallu darparu ystod o gefnogaeth i aelodau staff. Mae hyn yn cynnwys sesiynau ymwybyddiaeth a chefnogaeth tîm unigol.
Manylion cyswllt:
Sir Gaerfyrddin
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru - 0300 0200 002
Ceredigion
Gofalwyr Ceredigion Carers - 03330 143377
Sir Benfro
Adferiad Recovery - 01437 611002
Gweler isod profiad un gofalwr o’r cymorth a gafodd gan y Gwasanaeth Cymorth Rhyddhau i Ofalwyr: