Gofalwr di-dâl yw rhywun sy'n darparu cymorth a chefnogaeth i berthynas, ffrind, neu gymydog na allai ymdopi ar ei ben ei hun. Mae gofalwyr di-dâl yn darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol, yn cynorthwyo gyda gofal personol, materion ariannol, cymorth corfforol, a llawer mwy. Maen nhw'n aml yn gwneud hyn i gyd wrth geisio cynnal bywyd eu hunain. Gall unrhyw un ddod yn ofalwr di-dâl ar unrhyw oedran, gall fod yn rhywbeth sy'n digwydd yn raddol neu dros nos.
Mae Gwasanaeth Cymorth Rhyddhau o'r Ysbyty i Ofalwyr yn cyflogi swyddogion gofalwyr i ddarparu cefnogaeth a chyngor i ofalwyr di-dâl tra bod y person y maent yn gofalu amdano yn yr ysbyty, neu pan fyddant yn cael eu rhyddhau neu eu trosglwyddo o'r ysbyty, naill ai i fynd adref neu i leoliad gofal arall. Nod y gwasanaeth hwn yw sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn teimlo'n weladwy, yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.
j
I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Cymorth Rhyddhau o'r Ysbyty i ofalwyr neu gymorth arall i ofalwyr di-dâl, gwasanaeth cymorth neu gymorth arall i ofalwyr di-dâl, cliciwch yma i ymweld â gwefan Cymorth i Ofalwyr Gorllewin Cymru (agor mewn dolen newydd), neu ffoniwch 0300 0200 002 ar gyfer Sir Gaerfyrddin, 03330 143 377 ar gyfer Ceredigion, neu 01437 611 002 ar gyfer Sir Benfro.