Mae enwi eich babi yn eich galluogi i gynnig hunaniaeth iddo. Os nad yw’n bosibl adnabod rhyw eich babi ar adeg ei eni, mae bob amser yn bosibl dewis enw sy’n addas ar gyfer bachgen neu ferch.
Mae teuluoedd wedi gweld y canlynol yn ddefnyddiol (ond cofiwch fod galar yn bersonol; nid oes unrhyw beth yn gywir neu'n anghywir):
- Gweld a dal eich babi;
- Golchi a gwisgo eich babi;
- Tynnu lluniau; mae yna dîm ffotograffiaeth meddygol sy'n gallu tynnu lluniau o'ch babi. Mae’n bosibl y bydd tîm o’r enw Remember my baby hefyd ar gael i dynnu lluniau o’ch babi. Gofynnwch i'ch bydwraig am ragor o wybodaeth am hyn.
- Cael llun o olion traed a dwylo eich babi (os yn bosibl).
- Treulio amser gyda'ch babi. Mae cot ar gael ar y ward i chi allu treulio amser gyda'ch babi. Mae posibilrwydd hefyd o fynd â’ch babi adref i dreulio amser gyda nhw – siaradwch â’ch bydwraig profedigaeth os hoffech chi wneud hyn.