Os oes gennych glefyd y galon, y ffordd orau o sicrhau beichiogrwydd iach yw ymweld â'ch meddyg teulu neu arbenigwr y galon (cardiolegydd) cyn i chi ddechrau ceisio am fabi. Gelwir hyn yn cwnsela cyn beichiogrwydd neu'n cwnsela cyn beichiogi.
Gall eich arbenigwr drafod y canlynol gyda chi:
Os nad yw'n bosibl rhoi'r gorau i gymryd rhai meddyginiaethau, gall eich meddyg drafod y posibilrwydd o unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r driniaeth hon yn ystod eich beichiogrwydd.
Peidiwch â rhoi'r gorau i gymryd unrhyw feddyginiaethau heb ymgynghori â'ch meddyg neu'ch cardiolegydd yn gyntaf.