Ewch i weld meddyg teulu, nyrs asthma neu arbenigwr cyn gynted ag y byddwch yn gwybod eich bod yn feichiog am gyngor ar sut i reoli eich asthma. Bydd eich bydwraig yn eich cefnogi drwy gydol eich beichiogrwydd, ond bydd eich meddyg teulu, nyrs asthma neu arbenigwr yn parhau i reoli eich gofal asthma. Rydych hefyd yn fwy tebygol o ddioddef o adlif asid - pan fydd asid stumog yn teithio yn ôl i fyny tuag at y gwddf - tra'n feichiog, a all wneud asthma yn waeth.
Cyngor brys: Ffoniwch eich meddyg teulu, nyrs asthma neu 111 ar unwaith os ydych:
Gallai unrhyw un o'r rhain olygu bod eich asthma yn gwaethygu a bod angen ei wirio.
Angen gweithredu ar unwaith: Ffoniwch 999 os ydych yn cael pwl o asthma ac mae unrhyw un o'r rhain yn berthnasol: