Neidio i'r prif gynnwy

Ystumiau wrth esgor a rhoi genedigaeth

Person beichiog yn ymestyn

Mae menywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth ar y teledu neu mewn ffilmiau yn tueddu i dreulio eu cyfnod esgor yn gorwedd yn ôl ar wely ysbyty. Ond bydd y mwyafrif o fenywod yn symud o gwmpas llawer yn ystod y cyfnod esgor ac yn newid ystum wrth i'w cyfnod esgor fynd yn ei flaen ac wrth i'r baban newid ei ystum.

Gall symud o gwmpas, cadw'n unionsyth a newid ystum:

  • leddfu'r boen
  • eich helpu i ymdopi
  • gwneud i chi deimlo bod gennych reolaeth dros eich esgoriad
  • cynyddu eich siawns o esgoriad byrrach
  • gwthio'r baban i lawr
  • eich helpu i ddod o hyd i'r ystum gorau ar gyfer rhoi genedigaeth.

 

Ystumiau da i roi cynnig arnynt yn ystod y cyfnod esgor

Mae yna lawer o ystumiau y gallwch roi cynnig arnynt. Gwnewch pa beth bynnag sy'n teimlo'n iawn i chi, a chofiwch fod eich bydwraig a'ch partner geni yno i'ch helpu a'ch annog.

Gallech roi cynnig ar y canlynol:

  • eistedd, pwyso ar fwrdd
  • eistedd â'ch coesau o boptu i gadair neu'r toiled, gan wynebu at yn ôl
  • sefyll, pwyso ar wely, ar fwrdd neu yn erbyn eich partner geni
  • sefyll, pwyso ar bêl geni sydd ar wely
  • penlinio ar y llawr gyda'ch breichiau o amgylch pêl geni
  • penlinio ar eich pedwar (gall hyn helpu os ydych wedi cael llawer o boen cefn)
  • penlinio dros gefn y gwely neu yn erbyn eich partner geni
  • siglo'n ôl ac ymlaen ar bêl geni, eistedd ar y bêl, neu fownsio gan bwyll bach arni.

Ceisiwch gerdded o gwmpas hefyd, os gallwch. Os byddwch yn blino neu os bydd eich cyfangiadau'n cryfhau, gallwch geisio dal ati i newid ystum trwy symud eich pwysau o un droed i'r llall, neu drwy siglo eich pelfis.

Bydd rhai o'r ystumiau hyn yn ei gwneud yn haws i'ch partner geni roi tyliniad i chi neu rwbio eich cefn. Bydd hyn yn helpu i ryddhau endorffinau, hormonau teimlo'n dda y corff, a all helpu gyda'r boen. Mae yna lawer o opsiynau eraill ar gael hefyd ar gyfer lleddfu poen yn ystod y cyfnod esgor.

Cofiwch orffwys pan fydd arnoch angen hynny, a pheidiwch â phoeni am sut olwg sydd arnoch. Mae'r bydwragedd wedi gweld y cyfan o'r blaen, felly gwnewch yr hyn sy'n teimlo'n dda i chi.

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: