Neidio i'r prif gynnwy

Y modd y mae peiriannau TENS yn gweithio

Caiff electrodau eu tapio ar eich cefn a'u cysylltu â gwifrau i ysgogydd bach sy'n cael ei bweru â batri. Gan afael yn hwn, byddwch yn rhoi symiau bach, diogel o gerrynt i chi eich hun trwy'r electrodau. Gallwch symud o gwmpas tra byddwch yn defnyddio TENS. 

Credir bod TENS yn gweithio trwy ysgogi'r corff i gynhyrchu mwy o'i gyffur lladd poen naturiol ei hun, a elwir yn endorffinau. Mae hefyd yn lleihau nifer y signalau poen a anfonir i'r ymennydd gan fadruddyn y cefn.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: