Neidio i'r prif gynnwy

Peiriannau TENS

Ystyr TENS yw ysgogydd nerfol trydanol trawsgroenol. Mae gan rai ysbytai beiriannau TENS. Os nad oes un ar gael, gallwch logi eich peiriant eich hun.

Nid oes tystiolaeth bod TENS yn effeithiol yn ystod cam gweithredol y cyfnod esgor, pan fydd y cyfangiadau'n hirhau, cryfhau ac amlhau. Mae'n debyg ei fod ar ei fwyaf effeithiol yn ystod y camau cynnar, pan fydd gennych, o bosibl, boen yng ngwaelod eich cefn.

Gall TENS hefyd fod yn ddefnyddiol pan fyddwch gartref yn ystod camau cynnar yr esgor, neu os yw'n fwriad gennych roi genedigaeth gartref. Os oes gennych ddiddordeb mewn TENS, dysgwch sut i'w ddefnyddio yn ystod misoedd olaf eich beichiogrwydd. Gofynnwch i'ch bydwraig ddangos i chi'r modd y mae'n gweithio.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: