Neidio i'r prif gynnwy

Remifentanil

Mae remifentanil yn mynd i mewn i wythïen yn eich braich. Chi eich hun sy'n ei reoli trwy wasgu botwm.

Mae'n gweithio'n gyflym ac yn pylu ar ôl ychydig funudau. Gallwch ei ddefnyddio hyd nes y caiff eich baban ei eni.

Bydd arnoch angen clip bach ar eich bys i fesur eich lefelau ocsigen gan y gall remifentanil wneud i chi deimlo'n fyr eich gwynt neu beri bod arnoch angen ocsigen.

Sgileffeithiau

Gall remifentanil wneud i chi deimlo'n gysglyd, yn sâl neu'n benysgafn, neu gall wneud i chi gosi. Daw hyn oll i ben pan fyddwch yn rhoi'r gorau i'r feddyginiaeth.

Yn debyg i bethidin, gall remifentanil gael effaith ar anadlu'r baban ond bydd hyn fel arfer yn diflannu'n gyflym.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: