Neidio i'r prif gynnwy

Monitro cyson ag EFM

Mae EFM (monitro'r ffetws yn electronig) yn defnyddio tonnau uwchsain i glywed calon eich baban. Bydd eich bydwraig yn defnyddio peiriant o'r enw trawsddygiadur, sy'n cael ei ddal yn erbyn eich abdomen, neu bydd yn defnyddio electrod bach sy'n cael ei glipio ar groen pen eich baban, neu ei ben-ôl os yw cyflwyniad eich baban yn ffolennol.

Mae EFM yn monitro eich baban yn barhaus. Gall hyn fod yn hynod o bwysig yn achos rhai babanod – os ydynt mewn perygl neu os yw'n hysbys y gallai fod yna broblem.

Fodd bynnag:

  • yn y mwyafrif o achosion, nid yw EFM parhaus yn ddefnyddiol iawn mewn esgoriad anghymleth
  • mae dehongli darlleniad y monitor yn dasg sy'n gofyn am sgiliau uwch
  • gall hyd yn oed obstetryddion profiadol iawn fod â barn wahanol o ran yr hyn sy’n ddarlleniad ‘normal’, a'r hyn a allai achosi pryder.

Mewn llawer o ysbytai, mae'r bydwragedd yn cytuno nad oes angen EFM parhaus ar gyfer esgoriad arferol, yn enwedig yn y cam cyntaf.

Weithiau, defnyddir stethosgop Doppler neu Pinard yn lle hynny.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: