Neidio i'r prif gynnwy

A ellir rhoi fitamin K trwy'r geg?

Gellir rhoi fitamin K i fabanod ar ffurf hylif trwy'r geg. Fodd bynnag, mae'n llai effeithiol gan na ellir gwarantu bod y cyffur cyfan yn cael ei amsugno. Mae'n rhaid rhoi fitamin K trwy'r geg ar ffurf cwrs tri dos dros y pedair i chwe wythnos gyntaf, ac mae yna berygl y bydd babanod yn colli'r ail neu'r trydydd dos, gan olygu na fyddant yn cwblhau'r cwrs.


Y fformiwleiddiad fitamin K trwy'r geg i'w ddefnyddio yw Konakion MM Pediatric 2 mg (0.2 ml), a dylid ei roi ar yr enedigaeth a phan fydd y baban yn saith niwrnod oed.


Dylai'r babanod hynny sy'n cael Konakion MM Pediatric trwy'r geg adeg eu geni ac yn saith niwrnod oed, ac sy'n dal i fwydo ar y fron, gael trydydd dos trwy'r geg (2 mg mewn 0.2 ml) pan fyddant yn bedair wythnos oed.


Mae'n hynod o bwysig bod eich baban yn cael y dosau dilynol o fitamin K trwy'r geg gan fod yna risg y gallai gael clefyd gwaedlifol dechreuad hwyr.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: