Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw risgiau cymell y geni?

Mae cymell y geni yn ymyriad meddygol a all effeithio ar eich dewisiadau ar gyfer yr enedigaeth a'ch profiad o enedigaeth. Gall cymell y geni gynyddu'r posibilrwydd y bydd arnoch angen genedigaeth trwy'r wain â chymorth gefeiliau neu ventouse. Gall cymell y geni fod yn fwy poenus nag esgor yn ddigymell. Gall prostaglandinau achosi dolur neu lid yn y wain.

Gall Propess/Prostin achosi i'ch croth gyfangu'n rhy aml neu am gyfnod rhy hir, a gallai hyn beri gofid i'r baban. Os bydd hyn yn digwydd, bydd angen i ni wrthdroi'r effeithiau trwy dynnu'r Propess a/neu roi pigiad i chi i arafu amlder y cyfangiadau. Nid yw cymell y geni bob amser yn llwyddiannus. Gall cymell y geni gymryd hyd at bum niwrnod, felly gallai eich arhosiad yn yr ysbyty fod yn un hir.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: