Neidio i'r prif gynnwy

Pa opsiynau lleddfu poen sydd ar gael?

Mae pawb yn profi poen yn wahanol, felly tra bo archwiliadau meddygol ychydig bach yn anghyfforddus i'r rhan fwyaf o bobl, gallant deimlo'n boenus i eraill. Os yw hynny'n wir yn eich achos chi, trafodwch hyn â'ch bydwraig fel y gellir cynnig dull lleddfu poen i chi.

Ar ôl rhoi'r Propess/Prostin, efallai y byddwch yn teimlo rhywfaint o boenau tebyg i gramp mislif, poen cefn, tynhau, a pheth anghysur yn eich gwain. Gall cerdded o gwmpas helpu i leddfu'r anghysur a gall hefyd helpu i ddechrau eich cyfnod esgor.

Gellir defnyddio dulliau ymlacio ac anadlu. Gallwch ddysgu rhagor am y rhain yn eich dosbarthiadau cynenedigol neu gan eich bydwraig.

Gall symud i ystumiau gwahanol helpu hefyd, ac mae gennym nifer o beli geni ar y ward y mae croeso i chi eu defnyddio. Mae gennym gyflenwad cyfyngedig o beiriannau TENS ar gael, ond ni ellir eu gwarantu. Gallwch logi peiriant TENS gan rai fferyllfeydd os byddai'n well gennych ddod ag un eich hun. Cliciwch am rhestr o fferyllfeydd yma (agor mewn dolen newydd)

Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio dŵr yn fodd i leddfu poen, felly byddem yn eich annog i wneud defnydd o'r bàth neu'r cawodydd. Os bydd angen, gallwn roi meddyginiaeth lleddfu poen syml megis paracetemol i chi.

Os bydd arnoch angen rhagor o ddulliau lleddfu poen, gallwch drafod hynny â'ch bydwraig.

Cliciwch am ein tudalen ar leddfu poen yma (agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: