Diferwr ocsitosin yw diferwr hormon y byddwn yn ei gynyddu'n raddol bob 30 munud nes bod gennym bedwar cyfangiad rheolaidd bob 10 munud.
Gwneir hyn ar y ward esgor, a bydd yn golygu gosod canwla, yng nghefn eich llaw fel arfer, fel y gallwn roi'r hormon yn syth i'ch gwythïen. Ar yr adeg hon bydd curiad calon eich baban yn cael ei fonitro'n barhaus. Gallwch barhau i symud tra byddwch wedi eich cysylltu â'r peiriant monitro, a gall y fydwraig sy'n gofalu amdanoch ddangos i chi'r modd i wneud defnydd llawn o'r gwely geni i ddewis ystumiau gwahanol.