Neidio i'r prif gynnwy

Dull 4: Torri'r pilenni yn artiffisial (ARM)

Mae torri'r pilenni yn artiffisial (ARM) yn golygu torri eich dŵr.

Pan fydd gwddf y groth wedi teneuo ac ymledu i oddeutu dau i dri centimetr, byddwn yn gallu torri eich dŵr. Gwneir hyn ar y ward esgor trwy gynnal archwiliad o'r wain, mewnosod bachyn bach plastig, a rhoi pwysau ar y bag o bilenni o amgylch y baban i wneud twll. Ar ôl gwneud hyn, byddwn fel arfer yn caniatáu awr neu ddwy i chi symud o gwmpas i ysgogi'r cyfangiadau.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: