Neidio i'r prif gynnwy

Dull 1: Propess (a elwir y bag te)

Pesari'r wain yw Propess, sy'n edrych fel tampon bach ac a osodir y tu ôl i wddf y groth.

Bydd y Propess yn rhyddhau'r hormon prostaglandin yn araf dros gyfnod o 24 awr i helpu i aeddfedu gwddf y groth. Mae yna linyn hir ynghlwm wrth y Propess fel y gellir ei dynnu'n hawdd.

Mae'n bwysig eich bod yn gofalu nad ydych yn tynnu nac yn llusgo'r llinyn gan y gallai hyn achosi i'r Propess ddod allan. Cymerwch ofal pan fyddwch yn eich sychu eich hun ar ôl bod i'r toiled ac ar ôl ymolchi, a hefyd wrth fynd ar y gwely a dod oddi arno.

Os bydd eich Propess yn dod allan, rhowch wybod i'r fydwraig ar unwaith fel y gellir ei ailosod. Byddwch yn cael eich asesu eto ar ôl 24 awr, ac efallai y bydd arnoch angen ail Propess a fydd, eto, yn aros yn ei le am 24 awr.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: