Neidio i'r prif gynnwy

Sut y byddaf yn gwybod bod y cyfnod esgor sefydlog wedi dechrau?

Mae'r cyfnod esgor yn sefydlog pan fydd gwddf y groth wedi ymledu i fwy na pedwar centimedr. Ar y pwynt hwn, byddwch yn dechrau cael cyfangiadau cryfach, hirach a rheolaidd. Mae'n syniad da dechrau cofnodi pa mor aml y mae eich cyfangiadau'n digwydd a pha mor hir y maent yn para. Bydd hyn yn dangos i chi pan fyddant yn digwydd yn fwy rheolaidd.

Cysylltwch â’ch bydwraig, yr uned famolaeth neu'r ward esgor os:

  • yw eich cyfangiadau'n rheolaidd ac yn digwydd oddeutu dau i dri gwaith ym mhob 10 munud
  • yw eich dyfroedd yn torri
  • yw eich cyfangiadau'n gryf iawn, a'ch bod yn teimlo bod arnoch angen meddyginiaeth lleddfu poen
  • ydych yn poeni am unrhyw beth.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: