Neidio i'r prif gynnwy

Beth y gallaf ei wneud i leddfu'r boen?

Y nod yn ystod cyfnod cynnar yr esgor yw cadw mor ddigynnwrf a chyfforddus â phosibl. Efallai y bydd o gymorth:

  • ceisio cerdded neu symud o gwmpas
  • ceisio gorffwys a chysgu os yw eich esgoriad yn dechrau yn y nos
  • yfed hylifau megis dŵr. Mae'n bosibl y bydd diodydd chwaraeon (isotonig) hefyd yn helpu i gadw eich lefelau egni i fyny
  • bwyta byrbrydau bach, rheolaidd megis tost, bisgedi neu fanana (ond byddwch yn ymwybodol nad oes ar lawer o fenywod chwant bwyd yn ystod y cyfnod hwn, a bod rhai yn teimlo'n sâl neu'n chwydu)
  • rhoi cynnig ar ymarferion ymlacio ac anadlu
  • cael tyliniad – gallai eich partner geni helpu trwy rwbio eich cefn
  • cymryd paracetamol yn unol â'r cyfarwyddiadau ar y pecyn – mae paracetamol yn ddiogel i'w gymryd yn ystod y cyfnod esgor
  • cael bàth neu gawod gynnes
  • bownsio neu siglo gan bwyll bach ar bêl geni
  • defnyddio peiriant TENS (ysgogydd nerfol trydanol trawsgroenol/transcutaneous electrical nerve stimulation), a osodir ar eich cefn â phadiau gludiog ac sy'n anfon ysgogiadau trydanol bach i atal signalau poen rhag cael eu hanfon o'ch corff i'ch ymennydd. Bydd hyn yn eich gwneud yn llai ymwybodol o'r boen.

Nid oes yna lawer o dystiolaeth bod aromatherapi, ioga nac aciwbwyso yn lleddfu poen, ond gallwch roi cynnig arnynt os dymunwch. Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio'r therapïau hyn, siaradwch â'ch bydwraig yn ystod eich beichiogrwydd.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: