Neidio i'r prif gynnwy

"Amlygiad"

Yn ystod beichiogrwydd, mae gwddf y groth ynghau ac ynddo blwg o fwcws i gadw haint allan o'r groth. Ond pan fydd y cyfnod esgor yn dechrau, mae'n bosibl y bydd y plwg mwcws yn dod allan. Gelwir hyn yn amlygiad ac efallai y byddwch yn sylwi arno yn eich dillad isaf neu pan fyddwch yn sychu ar ôl mynd i'r toiled. Nid yw rhai menywod/pobl sy'n rhoi genedigaeth yn cael amlygiad.

Gall y mwcws bach gludiog hwn, sy'n debyg i jeli, ddod allan ar ffurf un smotyn neu mewn sawl darn. Mae'n arferol colli ychydig bach o waed gyda'r mwcws ond cysylltwch â'ch ysbyty neu eich bydwraig ar unwaith os ydych yn colli mwy o waed. Gall gwaedu yn ystod y cam hwn o'r esgor fod yn arwydd bod rhywbeth o'i le.

Ffoniwch eich bydwraig i gael cyngor os daw eich plwg mwcws allan cyn eich bod wedi cyrraedd 37 wythnos yn eich beichiogrwydd.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: