Dylech. Yn ôl pob tebyg, cewch gynnig asesiad cynnar dros y ffôn.
Bydd eich bydwraig yn:
- gofyn sut yr ydych yn teimlo (unrhyw dynhau neu waedu, neu a yw eich dyfroedd wedi torri)
- gofyn i chi am eich dewisiadau o ran yr enedigaeth, a'ch gobeithion a'ch pryderon
- holi am symudiadau eich baban, ac yn enwedig am unrhyw newidiadau (dylech barhau i allu teimlo eich baban yn symud hyd at yr amser y byddwch yn dechrau esgor, ac yn ystod y cyfnod esgor)
- egluro'r hyn y gallwch ei ddisgwyl yn ystod cyfnod cynnar yr esgor, gan gynnwys pethau a allai eich helpu i reoli unrhyw boen
- cynnig cymorth a meddyginiaeth lleddfu poen i chi, os bydd arnoch angen hyn
- dweud wrthych â phwy y dylech gysylltu nesaf, a phryd
- rhoi cyngor a chymorth i'ch partner geni os oes gennych un.
Os yw popeth yn iawn, bydd eich bydwraig yn argymell eich bod yn aros gartref nes bod y cyfnod esgor yn sefydlog. Rydych yn fwy tebygol o gael cyfnod esgor mwy esmwyth a llai o ymyriadau os arhoswch gartref hyd nes bod y cyfnod esgor yn gryfach a'ch cyfangiadau'n rheolaidd.