Mae fitamin K yn cynorthwyo’r gwaed i geulo, ac mae hyn yn atal gwaedu.
Pan fydd babanod yn cael eu geni, nid oes fawr ddim fitamin K yn eu cyrff a gall nifer bach o fabanod waedu o’r herwydd. Gwaedu diffyg fitamin K (VKDB) yw’r enw ar hyn. Mae’n anghyffredin, ond gall fod yn ddifrifol iawn.