Mae cyswllt croen wrth groen yn eich helpu i feithrin cwlwm agosrwydd â’ch baban. Mae’n syniad da i’r baban gael ei godi a’i roi yn eich gafael chi cyn gynted ag y bydd yn cael ei eni, a chyn torri’r llinyn bogail, er mwyn i chi allu bod yn agos at eich gilydd o’r dechrau’n deg.
Naill ai cyn i’r llinyn bogail gael ei glampio, neu’n union ar ôl i hynny ddigwydd, bydd eich baban yn cael ei sychu a’i orchuddio â lliain i’w atal rhag oeri. Gallwch barhau i ddal a chwtsio eich baban tra bydd hyn yn digwydd.
Efallai y bydd ychydig o’ch gwaed ar groen eich baban, ac efallai ychydig o fernics, y sylwedd gwyn seimllyd sy’n amddiffyn croen eich baban yn y groth.
Os yw’n well gennych, gallwch ofyn i’r fydwraig sychu eich baban a’i lapio mewn blanced cyn i chi gael cwtsh.