Neidio i'r prif gynnwy

Pryd nad yw oedi cyn clampio'r llinyn bogail yn cael ei argymell?

Gan mwyaf, mae oedi cyn clampio’r llinyn bogail yn fuddiol ac fe fydd yn cael ei argymell. Ond mewn rhai sefyllfaoedd, efallai na fydd yn addas, er enghraifft:

  • os yw’r sawl sy’n rhoi genedigaeth yn gwaedu’n drwm a bod angen rhoi triniaeth feddygol ar unwaith
  • os oes problem â’r brych, er enghraifft, os yw’r brych wedi gwahanu oddi wrth y groth, os yw’r brych yn isel yn y groth neu os oes achos o placenta praevia neu vasa praevia
  • os yw’r llinyn bogail yn gwaedu ac nad yw’r gwaed yn cyrraedd y baban
  • os oes angen cymorth ar y baban i anadlu (adfywiad)

Cliciwch am fwy o wybodaeth am problem â’r brych yma (Saesneg yn unig) (yn agor mewn dolen newydd).

Ni ddylid oedi cyn clampio’r llinyn bogail yn achos gefeilliaid sy’n rhannu’r un brych. Y rheswm am hyn yw bod yna berygl bach y gallai gwaed symud o’r naill efaill i’r llall yn ystod yr enedigaeth. 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am feichiogrwydd lluosog (Saesneg yn unig) (yn agor mewn dolen newydd).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: