Neidio i'r prif gynnwy

A fydd modd oedi cyn clampio'r llinyn bogail os ydw i'n HIV positif?

Gall fod modd oedi cyn clampio’r llinyn bogail o hyd os ydych yn HIV positif. Mae tystiolaeth yn dangos bod manteision oedi cyn clampio’r llinyn bogail yn gwrthbwyso’r risg o drosglwyddo’r feirws HIV os yw’r fam wedi bod yn cymryd meddyginiaethau gwrth-retrofeirysol. 

Os ydych yn HIV positif, gwnewch yn siŵr bod eich tîm gofal iechyd yn gwybod am hynny cyn gynted â phosibl yn ystod eich beichiogrwydd. Bydd modd i aelodau’r tîm helpu i drefnu’r driniaeth y mae arnoch ei hangen i leihau’r risg o drosglwyddo’r haint i’ch baban.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: