Neidio i'r prif gynnwy

A ddylwn nodi fy mod am oedi cyn clampio'r llinyn bogail yn fy nghynllun geni?

Dylech. Fe all fod yn fuddiol trafod oedi cyn clampio’r llinyn bogail â’ch bydwraig neu eich meddyg yn ystod eich beichiogrwydd. Yna, gallwch ychwanegu eich dewisiadau at eich cynllun geni.

Cliciwch am fwy o wybodaeth am cynllun geni yma (Saesneg yn unig) (yn agor mewn dolen newydd).

Os oes gennych bartner geni, siaradwch ag ef/hi am yr hyn y byddech yn hoffi iddo ddigwydd, er mwyn iddo/iddi wybod hefyd.

Cliciwch am fwy o wybodaeth am bartner geni yma (Saesneg yn unig) (yn agor mewn dolen newydd).

Ond ceisiwch gofio nad yw’r cyfnod esgor bob amser yn mynd yn ôl y bwriad. Efallai y bydd angen i chi fod yn hyblyg a bod yn barod i wneud pethau’n wahanol.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: