Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw rheolaeth weithredol?

Bydd eich bydwraig yn rhoi pigiad ocsitosin yn eich morddwyd pan fyddwch yn geni’r baban, neu’n fuan ar ôl hynny. Bydd hyn yn gwneud i’r groth gyfangu.

Mae tystiolaeth yn awgrymu ei bod yn well peidio â thorri’r llinyn bogail ar unwaith, felly bydd eich bydwraig yn aros rhwng un a phum munud ar ôl geni’r baban cyn gwneud hyn. Mae’n bosibl y bydd hyn yn digwydd yn gynharach os bydd yna bryderon amdanoch chi neu eich baban – er enghraifft, os bydd y llinyn wedi’i rwymo’n dynn o amgylch gwddf y baban.

Pan fydd y brych wedi datod oddi wrth y groth, bydd y fydwraig yn tynnu’r llinyn – sy’n sownd yn y brych – ac yn tynnu’r brych trwy’r wain. Bydd hyn fel arfer yn digwydd cyn pen 30 munud ar ôl geni’r baban.

Mae rheolaeth weithredol yn cyflymu’r broses o eni’r brych ac yn lleihau’r risg o waedu’n drwm ar ôl geni’r baban (gwaedlif ôl-enedigol), ond mae’n cynyddu’r siawns y byddwch yn teimlo’n sâl ac yn chwydu. Gall hefyd waethygu’r poenau ar ôl yr enedigaeth (poenau tebyg i gyfangiadau ar ôl geni’r baban).

Cliciwch yma am rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn union ar ôl geni’r baban (Saesneg yn unig) (yn agor mewn dolen newydd).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: